Pobl ifanc yng Ngwynedd yn creu murlun graffiti
April 25, 2022
Roedd gwaith ar y murlun yn rhan o brosiect ar y cyd, sydd wedi ei ariannu gan Ieuenctid Gwynedd ac yn rhannol gan PACT Heddlu Gogledd Cymru, i roi gwasanaeth i bobl ifanc Pwllheli a'r Cylch.
Yn cydweithio ar y prosiect, a oedd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau graffiti drwy greu murlun ar gyfer y gymuned, oedd Andrew Owen, Gweithiwr Ieuenctid ardal Dwyfor; Adrian Miles Williams a Chris Williams Swyddogion Clwb Pêl droed Pwllheli; Geraint Williams a Sarah Hughes Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu; a’r arlunydd Andy Birch o Dime One Grafiti.
Bwriad Clwb Pêl Droed Pwllheli wrth gweithio mewn partneriaeth gydag Ieuenctid Gwynedd yw bod y Clwb yn agored ac ar gael i’r holl gymuned, ac nid ond i bobl ifanc gyda diddordeb mewn pêl droed yn unig. Gwelwyd gwerth mewn cyd-weithio gydag Ieuenctid Gwynedd i sicrhau’r weledigaeth hon.
Yn ôl Chris Williams o Clwb Pêl droed Pwllheli:
“Roeddem ni fel clwb eisiau codi ymwybyddiaeth fod y Clwb yma yn fwy na Chlwb Pêl droed ac yn Glwb i’r gymuned i gyd.
“Mae cydweithio gydag Ieuenctid Gwynedd yn profi ac yn dangos ein bod yn agored i holl bobl ifanc cymuned Pwllheli, os ydynt gyda diddordeb mewn pêl droed neu beidio. Rydym yn awyddus i gydweithio ar brosiectau ar gyfer pobl ifanc y gymuned at y dyfodol ac i wahanol wasanaethau ac asiantaethau ddod a phrofiad a sgiliau gwahanol i'r prosiectau.
“Diolch mawr i Andrew ac Ieuenctid Gwynedd am gydlynu’r digwyddiad yma, a diolch i’r bobl ifanc ac Andy Birch, mae’r murlun yn wych’. Hoffwn hefyd ddiolch i bobl ifanc yr ardal am eu hymdrech a’u Gwaith yn ystod y prosiect.”
Yn ôl Jesse Dobson person ifanc a weithiodd ar y prosiect:
“Rwyf wedi mwynhau'r profiad yma. Nid wyf yn mynychu’r cae pêl droed yma yn aml, gan oni meddwl na mond football oedd yma, rwan dw i'n deall drwy Ieuenctid Gwynedd a’r clwb fod y lle yma yn ofod i'r gymuned i gyd.
“Rwyf wedi mwynhau'r gweithgaredd yma ac yn falch iawn o'r cyfle i fod yn rhan o brosiect cymunedol yn fy ardal dw i eisiau dweud diolch i Ieuenctid Gwynedd am y cyfle i gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd.”
Mae Ieuenctid Gwynedd, Clwb Pêl-droed Pwllheli a’r Heddlu yn awyddus i barhau i gydweithio gyda'i gilydd at y dyfodol.
Enghraifft ardderchog
Dywedodd Annette Ryan, Arweinydd Gwaith Cymorth Ieuenctid, “Mae Gweithwyr Ieuenctid yn gweithio’n galed i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac addysgol mewn cymunedau ledled Gwynedd.
Mae’r prosiect yma yn enghraifft ardderchog o beth sydd yn gallu digwydd wrth cyd-weithio mewn partneriaeth gydag eraill mewn cymunedau.
Mae pobol ifanc Pwllheli a’r Cylch yn wych, ac yn haeddu pob cyfle i gallu cymdeithasu, cael hwyl, dysgu sgiliau a gyrraedd eu llawn botensial, enwedig ar ol y dwy flynedd diwethaf.
Yr ydym yn hynod o falch i gyd-weithio gyda Clwb Pel droed Pwllheli i codi ymwybyddiaeth bod y Clwb yn agored i bawb ac yn Glwb i’r gymuned holl. Edrychwn ymlaen rwan i ddatblygu ac ymuno mewn sawl prosiect cyffroes eraill mae pobl ifanc yn awyddus i gael’’
- All6490
-
News
6048
-
Education
2148
-
Leisure
1873
-
Language
1669
-
Arts
1478
-
Environment
1033
-
Politics
932
-
Health
695
-
Literature
646
-
Music
609
-
Money and Business
584
-
Agriculture
532
-
Food
458
-
Sports
372
-
The National Eisteddfod of Wales
345
-
Science and Technology
288
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
194
-
Training / Courses
94
-
Competitions
48
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3