Leri Ann yn rhyddhau sengl newydd
April 20, 2022
Mae Leri Ann yn wyneb cyfarwydd, wedi iddi actio rhan un o gymeriadau fwyaf lliwgar Rownd a Rownd - Erin. Ond, yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn datblygu ei thalentau unigryw fel cantores gyda'r cynhyrchwr Mei Gwynedd.Wedi rhyddhau ei EP cyntaf llynedd (You And Me), mae Leri yn ol gyda sengl Newydd, Ffwl Ohona I. Mae’r dylanwadau yn deillio o girl bands y 60au fel The Ronettes a’r Shirelles hyd at enwau fwy modern fel Duffy, Amy Winhehouse a Lady Gaga. Mae hi yn gantores unigryw ac arbennig, ac mae’r trac newydd yn destun fod Leri hefo dyfodol disglair iawn fel cantores.
Cyfrannu fy rhan
Yn ol Leri - "Dwi wrth fy modd gyda’r sain, a chanu y math yma o ganeuon. Fedrai ddim disgwyl perfformio y caneuon newydd yn fyw, ac yn edrych ymlaen yn fawr o allu cyfrannu fy rhan tuag at y sin gerddorol gwych sydd yma yng Nghymru ar hyn o bryd". Bydd rhagor o senglau yn cael eu rhyddhau drost y misoedd nesaf, gyda albwm llawn ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.
- All6510
-
News
6059
-
Education
2148
-
Leisure
1874
-
Language
1671
-
Arts
1481
-
Environment
1034
-
Politics
932
-
Health
698
-
Literature
647
-
Music
610
-
Money and Business
586
-
Agriculture
532
-
Food
458
-
Sports
373
-
The National Eisteddfod of Wales
351
-
Science and Technology
288
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
198
-
Training / Courses
94
-
Competitions
48
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3