Gŵyl unigryw i bontio rhwng Cymru a Llydaw
April 13, 2022
Yng Ngŵyl Chwoant, bydd unigolion gweithgar o Lydaw yn cynnal paneli trafod a gweithdai am ymgyrchu iaith, podlediadau, y byd ffilm a cherddoriaeth gyfoes gyda phobl ifainc cyfatebol o Gymru. Bydd yn gyfle hollol unigryw ac yn torri tir newydd, a'r gobaith yw y bydd yn arwain at ragor o gydweithio yn y dyfodol.
O ystyried nad ydyn ni’n rhy bell yn ddaearyddol ac ieithyddol mae’n syndod cyn lleied rydyn ni'n ei wybod am ein gilydd - bydd Gŵyl Chwoant yn ffordd arbennig o lenwi’r bylchau hyn ac i naill ochr y Môr Udd gyfoethogi’r llall wrth rannu, dysgu ac ysbrydoli trwy ein profiadau. Mae dysgu am y cyd-destun ieithyddol tebyg a’r frwydr i greu, i fyw ac i ymgyrchu trwy gyfrwng yr ieithoedd hyn yn brofiad gwbl amhrisiadwy.
Dywedodd Felix Parker-Price, un o drefnwyr yr ŵyl “Mae'n hen bryd i bobl ifainc yr ieithoedd hyn ddod at ei gilydd i gael rhannu a dysgu gan ei gilydd, ac i fagu’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad!”
Perfformio fest-noz
Ychwanegodd Marine Lavigne sy’n canu gyda grŵp sy’n canu’n y Llydaweg, Ahez, ac a fydd yn cynrychioli Ffrainc yng nghystadleuaeth Eurovision eleni, “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr cael dod i Gymru er mwyn cymryd rhan yng Ngŵyl Chwoant er mwyn dysgu a rhannu gyda’r Cymry. ‘Da ni’n edrych ymlaen yn fawr cael perfformio fest-noz yn fyw yn y prynhawn hefyd.”
Bydd y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb i'r sgyrsiau, y gweithdai a'r gig ar ddiwedd y dydd. Cynhelir Gŵyl Chwoant yng Nghaerdydd yng Nghanolfan yr Urdd, gan ddechrau am 10:00 tan 19:00.
- All6495
-
News
6050
-
Education
2148
-
Leisure
1873
-
Language
1671
-
Arts
1479
-
Environment
1033
-
Politics
932
-
Health
696
-
Literature
646
-
Music
609
-
Money and Business
584
-
Agriculture
532
-
Food
458
-
Sports
372
-
The National Eisteddfod of Wales
348
-
Science and Technology
288
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
194
-
Training / Courses
94
-
Competitions
48
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3