Cwmpas yw enw newydd Canolfan Cydweithredol Cymru
April 26, 2022
Wedi'i ffurfio ym 1982 gan TUC Cymru, mae ein sefydliad wedi ymsefydlu ei hun fel asiantaeth ddatblygu fwyaf y DU ar gyfer cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a busnesau sy'n eiddo i weithwyr, gyda hanes cadarn o gyd-ddarparu prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd sy'n adeiladu economi decach ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a digidol.
Mae'n bryd mynd ar drywydd enw a brand newydd ar gyfer ein sefydliad er mwyn adlewyrchu pwy ydym ni heddiw ac i le rydym yn anelu. Ers deugain mlynedd, rydym wedi llwyddo i helpu pobl a chymunedau yn eu hymgais i greu swyddi, busnesau a chymunedau cydweithredol. Wrth i'r sefydliad dyfu, mae ein gwaith wedi ehangu ac arallgyfeirio.
Mae ein henw newydd yn dangos ein pennod nesaf fel asiantaeth ddatblygu sy'n gweithio ar gyfer newid economaidd a chymdeithasol. Byddwn yn aros yn driw i'n gwreiddiau cydweithredol wrth inni esblygu i ymateb i heriau a chyfleoedd newydd. Er y bydd ein ffocws bob amser yn aros yng Nghymru, rydym yn bwriadu cynyddu maint y gwaith a wnawn mewn rhannau eraill o'r DU.
Dywedodd Derek Walker Prif Weithredwr, Cwmpas
"Ers deugain mlynedd, rydym wedi llwyddo i helpu pobl a chymunedau yn eu hymgais i greu swyddi, busnesau a chymunedau cydweithredol"
Bydd yr ymdeimlad hwn o weithio gyda phobl, cymunedau a busnesau a'u helpu i gyrraedd lle maen nhw am fod, bob amser wrth wraidd ein hethos ac rydym yn llawn cyffro am ein dyfodol.
Mae gennym strategaeth newydd sydd wedi'i datblygu ochr yn ochr â'n henw newydd mewn ymateb i'r pwysau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd digynsail a wynebir gan y wlad. Mae'r strategaeth hon yn nodi ein cynllun i helpu i adeiladu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a'r blaned yn dod yn gyntaf.
- All6495
-
News
6050
-
Education
2148
-
Leisure
1873
-
Language
1671
-
Arts
1479
-
Environment
1033
-
Politics
932
-
Health
696
-
Literature
646
-
Music
609
-
Money and Business
584
-
Agriculture
532
-
Food
458
-
Sports
372
-
The National Eisteddfod of Wales
348
-
Science and Technology
288
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
194
-
Training / Courses
94
-
Competitions
48
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3