Artist ifanc yn cerfio'n fyw yn Storiel Bangor
April 20, 2022
Cafodd Llŷr ei gomisiynu i greu gwaith celf newydd wedi'i ysbrydoli gan eitemau o hetiau yng nghasgliad Storiel. Bydd yn cerflunio’r hetiau o'r casgliad i fwydo i mewn i'w ddyluniad ar gyfer y gwaith celf.
Mae hefyd yn gwahodd pobl leol a grwpiau cymunedol i rannu yr hetiau y maent yn credu sy'n eu cynrychioli, a fydd hefyd yn bwydo i ddyluniad y cerflun.
Dewch â'ch hetiau i Storiel rhwng 20 a 22 Ebrill 2022 a rhannwch eich stori am sut mae'n eich cynrychioli chi neu'ch cymuned gyda Llŷr.
Mae cyfleoedd hefyd i bobl gerflun eu darn eu hunain o hetiau mewn un o dri gweithdy galw heibio dan arweiniad Llŷr yn Storiel ar yr adegau canlynol:
10am-12 ac 1-3pm 21 Ebrill 2022
10am-12 ac 1-3pm 22 Ebrill22
Ariennir y prosiect gan raglen 'Trawsnewid Trefi' Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Mae'n rhan o fenter ehangach i wella gofod awyr agored Storiel er mwyn creu ardal ddymunol i bobl ei mwynhau a'i gwella wrth ymgysylltu â'r gymuned.
Gwaith cerfluniol
Graddiodd Llŷr Erddyn Davies yn 2014 gyda gradd mewn Celf Gain o Brifysgol Falmouth. Mae’n byw ychydig y tu allan i Gaernarfon, Gwynedd lle mae'n parhau i weithio fel artist ac athro. Mae'n parhau i arddangos gwaith cerfluniol a lluniadau yn ogystal â gweithio ar gomisiynau cyhoeddus a phreifat.
Wrth egluro ei waith, dywedodd Llŷr Erddyn Davies, "Trwy fy ngwaith rwy'n ymchwilio ac yn arbrofi gyda'r berthynas rhwng pobl a'u hamgylchedd, boed hynny gyda phobl eraill, tir neu wrthrychau mewn cymdeithas. Rwy'n mwynhau'r prosesau diwydiannol trwm sy'n rhan o fwrw cerflun efydd."
- All5813
-
News
5460
-
Education
2015
-
Leisure
1831
-
Language
1559
-
Arts
1380
-
Environment
954
-
Politics
921
-
Health
654
-
Literature
635
-
Music
573
-
Money and Business
498
-
Agriculture
430
-
Food
403
-
Sports
342
-
The National Eisteddfod of Wales
284
-
Online
256
-
Science and Technology
252
-
Eisteddfod yr Urdd
146
-
Training / Courses
49
-
Competitions
46
-
Opinion
15
-
Book reviews
13
-
Papurau Bro
13
-
Music Reviews
6
-
Letters
3