(esiampl) Steffan Rhys Williams sy'n dewis eu 10 hoff fideo Cymraeg
April 02, 2022
Steffan Rhys Williams sy'n dewis ei 10 hoff fideos cerddoriaeth Cymraeg i ni sydd wedi eu cyhoeddi ar Youtube.
Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae Steffan wedi bod yn gweithio ym maes cyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer y teledu a’r cyfryngau. Mae ei gredydau amrywiol yn cynnwys gweithio fel cyfarwyddwr cerdd ar raglen ‘Songs of Praise’ BBC1, cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ‘Time Team’ ar Channel 4, ac oriau o gerddoriaeth, sain a chaneuon cofiadwy iawn ar gyfer gwasanaeth dyddiol ‘Cyw’ S4C i wylwyr iau, gan gynnwys y rhaglen ‘Rapsgaliwn’ a enillodd wobr BAFTA. Ymhlith ei waith diweddar mae ‘Save our Cinema’ – ffilm sydd ar y gweill ar gyfer Sky Arts ynglŷn ag ymgyrch yn y 1990au i achub Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin.