Pythefnos i fynd tan ddyddiad cau y Fedal Rhyddiaith
Tachwedd 17, 2021
Gydag Eisteddfod Ceredigion wedi’i gohirio yn 2020 ac unwaith eto eleni, mae cynnyrch llenyddol y Brifwyl wedi’i gloi’n ddiogel, yn barod i’w anfon at y beirniaid ym mis Ebrill 2022.
Ond gan fod y trefnwyr eisoes wedi derbyn y beirniadaethau ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Ceredigion ‘nôl ar gychwyn 2020, penderfynwyd gwobrwyo’r enillydd fel rhan o Eisteddfod AmGen er mwyn cefnogi’r diwydiant llyfrau. Ac felly, daeth Lleucu Roberts yn enillydd y ‘dybl rhyddiaith’ am yr eildro yn ystod yr un wythnos eleni, yn dilyn ei llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014.
Dyddiad cau
Rhagfyr 1af yw’r dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth eleni, a rhoddir y Fedal Ryddiaith a gwobr ariannol o £750, er cof am Robyn a Gwenan Lewis gan y teulu, am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau, ar y pwnc, ‘Dianc’. Y beirniaid eleni yw Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury.
Mae’r holl wybodaeth, ynghyd â’r ffurflen gais ar gael i’w lawrlwytho ar wefan yr Eisteddfod, ac mae’n rhaid i bob cais gyrraedd swyddfa’r Eisteddfod yng Nghaerdydd erbyn 1 Rhagfyr.
- Popeth5813
-
Newyddion
5460
-
Addysg
2015
-
Hamdden
1831
-
Iaith
1559
-
Celfyddydau
1380
-
Amgylchedd
954
-
Gwleidyddiaeth
921
-
Iechyd
654
-
Llenyddiaeth
635
-
Cerddoriaeth
573
-
Arian a Busnes
498
-
Amaethyddiaeth
430
-
Bwyd
403
-
Chwaraeon
342
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
284
-
Ar-lein
256
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
252
-
Eisteddfod yr Urdd
146
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
49
-
Cystadlaethau
46
-
Barn
15
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Llythyron
3