21/04/2026
Yn dilyn cystadleuaeth ar y cyd gyda rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, mae Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2027 wedi penderfynu mai Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd fydd enw swyddogol prifwyl y flwyddyn nesaf.
25/03/2026
Mae Theatr Cymru yn falch iawn o gyhoeddi Te Angladd gan Gruffudd Owen, dilyniant i’r ddrama hynod lwyddiannus Parti Priodas. Wedi’i chyflwyno gyda chefnogaeth gan Galeri Caernarfon, bydd y ddrama newydd hon yn agor yn Galeri cyn teithio’r wlad yng ngwanwyn 2027, gan ddychwelyd i’r cymeriadau hoffus, sgwennu ffraeth a themâu oesol wnaeth ddifyrru cynulleidfaoedd ledled Cymru yn 2024.
20/03/2026
Mewn blwyddyn gyda’r nifer uchaf erioed o geisiadau, mae rhaglenni S4C wedi derbyn cyfanswm o 17 o enwebiadau yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026.
23/01/2026
Mae llwyddiant y gyfres newydd Y Cyfweliad wedi arwain at benderfyniad S4C i gomisiynu dwy gyfres arall yn syth.
17/12/2025
Powys fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2027, ac mae’r gwaith o baratoi ar gyfer yr ŵyl a’r prosiect cymunedol yn cychwyn nos Fawrth 13 Ionawr mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Glantwymyn am 18:00.
07/12/2025
Mae Theatr Cymru yn falch iawn o gynnig cyfle newydd i gynulleidfaoedd ledled Cymru fwynhau Huw Fyw – drama lwyfan hynod boblogaidd Tudur Owen – wrth i’r cynhyrchiad deithio Cymru unwaith eto yn 2026. Bydd Tudur ei hun yn dychwelyd i’r cast ar gyfer y daith newydd hon fel cymeriad y teitl, Huw.
13/10/2025
“Fy nod yw rhoi gobaith a hyder i bobol eraill sy’n byw gyda chanser cam 4 ac i ddangos, er ei fod yn anodd ar brydiau, bod modd byw bywyd llawn,” meddai’r cyflwynydd radio a theledu a mam i dri, Mari Grug, wrth gyhoeddi ei hunangofiant, Dal i fod yn fi (Y Lolfa), wythnos yma.
22/09/2025
Mae Galeri Caernarfon Cyf heddiw (22 Medi) wedi cyhoeddi ei Cyfarwyddwr Artistig newydd: Mari Elen Jones.
15/09/2025
Mae’r actores, cyfarwyddwr, cyflwynwraig ac awdures Ffion Dafis wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws.
22/07/2025
Ar faes Y Sioe Frenhinol heddiw (22/07/2025) cafodd Gwobr Goffa arbennig ei lansio gan S4C a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru er cof am y ffermwr a'r cyflwynydd adnabyddus, Dai Jones Llanilar.
- Popeth6507
-
Newyddion
6058
-
Addysg
2148
-
Hamdden
1874
-
Iaith
1671
-
Celfyddydau
1479
-
Amgylchedd
1034
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
698
-
Llenyddiaeth
647
-
Cerddoriaeth
609
-
Arian a Busnes
586
-
Amaethyddiaeth
532
-
Bwyd
458
-
Chwaraeon
373
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
350
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
288
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
198
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
94
-
Cystadlaethau
48
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3