Penodi’r Athro Medwin Hughes yn gadeirydd Corff Llais y Dinesydd
Ebrill 18, 2022
Bydd Bwrdd Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn annibynnol ar y Llywodraeth, y GIG ac awdurdodau lleol ond bydd yn gweithio gyda hwy i gefnogi'r gwaith parhaus o wella gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hon yn fenter allweddol a fydd yn gyfrifol am sefydlu corff a seilwaith cenedlaethol i ymgysylltu â diwygiad iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru dywedodd Eluned Morgan, AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Yn dilyn fy natganiad blaenorol a gyhoeddwyd ar 10 Ionawr 2022, ac wedi ymgyrch recriwtio lwyddiannus, mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodiad yr Athro Medwin Hughes DL yn Gadeirydd Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
“Mae hon yn rôl arweinyddiaeth hynod o bwysig ar gyfer y corff a fydd yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau’r cyhoedd o ran gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol o 1 Ebrill 2023.
“Mae gan yr Athro Hughes brofiad helaeth o arwain ar lefel uwch ac ef yw Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ers 2011, er y mae’n fwriad iddo ymddeol o’r swydd hon yn fuan.
“Edrychaf ymlaen at gydweithio â’r Athro Hughes. Rwy’n hyderus y bydd ei brofiad yn ei alluogi i sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn sefydliad blaenllaw o ran cynrychioli llais a safbwyntiau pobl mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal â chefnogi’r gwaith parhaus o wella gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar unigolion.”
Bydd gwaith yn mynd rhagddo yn ystod y flwyddyn nesaf i adeiladu’r cysylltiadau, y systemau a’r sylfeini angenrheidiol a bydd y Gweinidog yn cyhoeddi penodiadau yr aelodau anweithredol sy’n weddill yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yr Athro Hughes yn ei swydd am gyfnod o bedair blynedd, hyd nes 31 Mawrth 2026.
Yr Athro Hughes yw’r Is-Ganghellor sydd wedi gwasanaethu hiraf yng Nghymru ac mae wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y gwaith o ail-gynllunio Addysg Uwch dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ef yw Is-ganghellor Prifysgol Cymru a Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sef grŵp sector deuol o sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach.
Ynglŷn â’i benodiad, dywedodd yr Athro Medwin Hughes: “Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i gael gwasanaethu yn y rôl hon yn fawr, yn ogystal â’r cyfle i sefydlu corff cenedlaethol newydd sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl gan sicrhau bod safbwyntiau unigolion a chymunedau yn ganolog i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at gydweithio â’r partneriaid a’r bobl niferus sy’n ymwneud â’r gwaith o feithrin cysylltiadau â dinasyddion a darparu eu gofal wrth inni ddatblygu’r corff newydd.”
- Popeth5813
-
Newyddion
5460
-
Addysg
2015
-
Hamdden
1831
-
Iaith
1559
-
Celfyddydau
1380
-
Amgylchedd
954
-
Gwleidyddiaeth
921
-
Iechyd
654
-
Llenyddiaeth
635
-
Cerddoriaeth
573
-
Arian a Busnes
498
-
Amaethyddiaeth
430
-
Bwyd
403
-
Chwaraeon
342
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
284
-
Ar-lein
256
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
252
-
Eisteddfod yr Urdd
146
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
49
-
Cystadlaethau
46
-
Barn
15
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Llythyron
3