Mis a hanner tan ddyddiad cau cyntaf Eisteddfod 2022
Awst 17, 2021
Hydref 1af yw’r dyddiad cau, ac mae’n rhaid cyflwyno pob cais erbyn y dyddiad hwn.
Gydag Eisteddfod Ceredigion wedi’i gohirio yn 2020 ac unwaith eto eleni, mae cynnyrch llenyddol y Brifwyl wedi’i gloi’n ddiogel, yn barod i’w anfon at y beirniaid ym mis Ebrill 2022. Ond gan fod y trefnwyr eisoes wedi derbyn y beirniadaethau ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Ceredigion ‘nôl ar gychwyn 2020, penderfynwyd gwobrwyo’r enillydd fel rhan o Eisteddfod AmGen er mwyn cefnogi’r diwydiant llyfrau.
Felly, bythefnos yn ôl, derbyniodd Lleucu Roberts glod ac anrhydedd Gwobr Goffa Daniel Owen, am ei nofel, Hannah-Jane. Yn nes ymlaen yn yr wythnos, enillodd Lleucu’r Fedal Ryddiaith hefyd, gan greu hanes eisteddfodol, fel y person cyntaf i ennill y ‘dwbl-dwbl’ rhyddiaith yn y Brifwyl.
Dwys ystyried
 nofel Lleucu’n dal i hedfan oddi ar silffoedd ein siopau llyfrau, mae’n anodd credu mai ychydig wythnosau’n unig sydd i fynd tan y dyddiad cau tyngedfennol ar gyfer y gystadleuaeth eleni. Dros fisoedd llwm y gaeaf, bydd y beirniaid, Emyr Llywelyn, Ioan Kidd a Manon Steffan Ros, yn darllen, yn mwynhau ac yn dwys ystyried y pentwr o nofelau heb eu cyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, a fydd yn dod i law ymhen mis a hanner.
Yn ogystal â’r Fedal hardd i goffau Daniel Owen, cynigir gwobr ariannol o £5,000, gyda honno’n rhoddedig gan Grŵp Cynefin.
Y dyddiad cau nesaf fydd 1 Rhagfyr, sef y dyddiad pan fydd rhaid anfon pob cais ar gyfer y Fedal Ryddiaith at y trefnwyr.
- Popeth5813
-
Newyddion
5460
-
Addysg
2015
-
Hamdden
1831
-
Iaith
1559
-
Celfyddydau
1380
-
Amgylchedd
954
-
Gwleidyddiaeth
921
-
Iechyd
654
-
Llenyddiaeth
635
-
Cerddoriaeth
573
-
Arian a Busnes
498
-
Amaethyddiaeth
430
-
Bwyd
403
-
Chwaraeon
342
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
284
-
Ar-lein
256
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
252
-
Eisteddfod yr Urdd
146
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
49
-
Cystadlaethau
46
-
Barn
15
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Llythyron
3