Lansio deiseb i achub swyddfa'r Caernarfon and Denbigh Herald

Ebrill 01, 2015

Cau swyddfa yng Nghaernarfon

Yn dilyn y cyhoeddiad gan gwmni Trinity Mirror yr wythnos diwethaf eu bod yn cau swyddfa un o bapurau hynaf Cymru, y Caernarfon and Denbigh Herald yng Nghaernarfon, mae deiseb wedi'i lansio a phrotest wedi'i threfnu yn galw ar y cwmni i ail-ystyried y penderfyniad. 

 

Bydd cau'r swyddfa'r papur lleol yn dod a diwedd i 180 o flynyddoedd o hanes newyddiaduraeth brint yn y dref. Roedd Caernarfon yn cael ei ystyried yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif fel prif ddinas inc Cymru, gyda thros 17 o bapurau newydd yn y dref ar un cyfnod.  

 

Mae'r ddeiseb ar y we wedi'i lansio gan Undeb y Newyddiadurwyr, yn "beirniadu’n hallt gynnig Trinity Mirror, i gau ei swyddfa yng Nghaernarfon, gan roi terfyn ar bresenoldeb yn y dref sy’n ymestyn dros 180 mlynedd."  

 

Pryder

 

Mae’r ddeiseb yn nodi eu bod yn pryderu dros barhad a dyfodol papurau newydd lleol yn y gogledd, "Pryderwn fod cau'r swyddfa hon yn cynrychioli lleihad pellach yn ymrwymiad Trinity Mirror i newyddiaduraeth leol yn y rhanbarth a’i fod yn arwain y ffordd at gau papurau newydd yr ydym yn eu gwerthfawrogi ac sydd wrth galon y gymuned."

 

Mae’r ddeiseb yn galw ar Trinity Mirror i ail-ystyried y penderfyniad i’r gau swyddfa ar Stryd y Porth Mawr, "Yr ydym yn galw ar Trinity Mirror i wrthdroi ei benderfyniad i gau’r swyddfa yng Nghaernarfon ac i ymrwymo yn gyhoeddus i ddyfodol ein papurau newydd sydd mor bwysig i ni."

 

Mae’r ddeiseb ar gael yma 

 

Bydd protest hefyd yn cael ei gynnal ar Turf Square, Caernarfon, ar Ebrill 11eg am 1 y prynhawn. 

Mwy

GWELD POPETH

Hedd Vaughan-Evans yn arwain y chwilio am Bennaeth Cyflenwi newydd

Elin Undeg Williams yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

Glain Llwyd yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

  • Popeth6507
  • Newyddion
    6058
  • Addysg
    2148
  • Hamdden
    1874
  • Iaith
    1671
  • Celfyddydau
    1479
  • Amgylchedd
    1034
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    698
  • Llenyddiaeth
    647
  • Cerddoriaeth
    609
  • Arian a Busnes
    586
  • Amaethyddiaeth
    532
  • Bwyd
    458
  • Chwaraeon
    373
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    350
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    288
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    198
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    94
  • Cystadlaethau
    48
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3