Lai na 100 diwrnod i fynd tan Eisteddfod Ceredigion

Ebrill 20, 2022

Ceredigion yn croesawu
Mae'r Eisteddfod wedi cyhoeddi mai fod llai na 100 diwrnod sydd i fynd tan fod giatiau’r Maes yn cael eu hagor i groesawu pawb i Dregaron am wythnos arbennig i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant.

Heddiw, mae tocynnau Maes yn cael eu rhyddhau ac yn mynd ar werth o 10:00 ymlaen. 

Yn ôl y Prif Weithredwr, Betsan Moses, mae pawb yn edrych ymlaen at gyrraedd Ceredigion - o’r diwedd, “Fe fydd hi’n dair blynedd ers i ni ddod at ein gilydd ar Faes y Brifwyl, ac rydyn ni, fel pawb arall yn edrych ymlaen yn arw at weld y Maes o dan ei sang yn Nhregaron. 

“Rydw i am ddiolch o waelod calon i drigolion Ceredigion a’n gwirfoddolwyr i gyd am eu hamynedd a’u brwdfrydedd dros y ddwy flynedd diwethaf.  Maen nhw’n dal i awchu i gynnal yr Eisteddfod.  Mae’u cefnogaeth nhw i ni fel staff wedi bod yn arbennig iawn wrth i ni fynd ati i ail-drefnu’r Maes a’n holl weithgareddau.

“Pleser felly yw cyrraedd y garreg filltir bwysig hon heddiw, gyda thocynnau’n mynd ar werth.  Er fod prisiau popeth, o danwydd i chwyddiant ac o ddeunyddiau i adeiladau wedi codi’n aruthrol ers 2019, ry’n ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi llwyddo i gadw prisiau tocynnau yr un fath ag Eisteddfod Sir Conwy nôl yn 2019.  Felly ewch ati i brynu, i edrych ymlaen ac i bori drwy’r rhaglenni pan fyddan nhw’n cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin.

“Mae’r byd wedi newid cymaint ers Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2020 yn nhref Aberteifi nôl yn haf 2019.  Cafwyd perfformiad arbennig o gân newydd sbon gan y ddau frawd lleol, Richard ac Wyn, Ail Symudiad, ar y Maen Llog fel rhan o’r seremoni.  Mae’n anodd credo ein bod ni wedi colli’r ddau dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r teulu a chwmni Fflach am ganiatáu i ni ddefnyddio’r gân a berfformiwyd yn y seremoni, Ceredigion, Môr a Thir, ar gyfer hysbyseb newydd fydd i’w weld ar draws ein sianeli digidol, ar ein gwefan ac ar ein sianel YouTube o heddiw ymlaen.  Dyma’r tro cyntaf i’r gân gael ei rhyddhau, ac mae’r geiriau a’r gerddoriaeth yn gweddu’n berffaith i’n neges ninnau, fod croeso cynnes i bawb yn harddwch Ceredigion eleni.”

Argraffu tocynnau o gartref

Am y tro cyntaf, bydd ymwelwyr yn gallu argraffu tocynnau Maes o gartref neu defnyddio’u ffôn clyfar i gael mynediad i’r Maes.  Mae hyn yn rhan o strategaeth gynaliadwyedd sydd am weld y sefydliad yn arloesi ym maes arferion digwyddiadau cynaliadwy yma yng Nghymru, gan sicrhau allyriadau sero net a dim gwastraff erbyn 2025.

Bydd manylion a thocynnau cyngherddau a gweithgareddau nos yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, gyda chyhoeddiadau eraill yn cael eu cynnwys yn y cylchlythyr ac ar gyfryngau cymdeithasol.  Gellir cofrestru i dderbyn y cylchlythyr o dudalen flaen y wefan, Dydd Sul 1 Mai yw’r dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau llwyfan, ac mae’r rhain i gyd i’w gweld ar-lein.

Mae ambell stondin ac uned yn Artisan yn dal i fod ar gael ar gyfer yr wythnos, ac mae’r manylion i gyd ar y we.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar gyrion Tregaron o 30 Gorffennaf – 6 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.

Gellir archebu tocynnau dyddiol ac wythnosol o wefan yr Eisteddfod 

Mwy

GWELD POPETH

Cwmpas yw enw newydd Canolfan Cydweithredol Cymru

Pobl ifanc yng Ngwynedd yn creu murlun graffiti

Ail flwyddyn prosiect olrhain eogiaid yn cychwyn ar yr afon Wysg

  • Popeth5813
  • Newyddion
    5460
  • Addysg
    2015
  • Hamdden
    1831
  • Iaith
    1559
  • Celfyddydau
    1380
  • Amgylchedd
    954
  • Gwleidyddiaeth
    921
  • Iechyd
    654
  • Llenyddiaeth
    635
  • Cerddoriaeth
    573
  • Arian a Busnes
    498
  • Amaethyddiaeth
    430
  • Bwyd
    403
  • Chwaraeon
    342
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    284
  • Ar-lein
    256
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    252
  • Eisteddfod yr Urdd
    146
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    49
  • Cystadlaethau
    46
  • Barn
    15
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Papurau Bro
    13
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Llythyron
    3