Gwenallt Llwyd Ifan yn ennill Cadair Eisteddfod AmGen

Awst 07, 2021

Gwenallt Llwyd Ifan yw enillydd Cadair Eisteddfod AmGen.

Daeth y bardd o Dregaron, sy’n byw yn Nhal-y-bont i‘r brig am ei awdl mewn cynghanedd gyflawn, hyd at 200 o linellau ar y pwnc ‘Deffro’.  Mae Gwenallt yn derbyn Cadair hardd, a gynlluniwyd a chrëwyd gan grefftwr yr Eisteddfod, Tony Thomas.  Y beirniaid eleni oedd Jim Parc Nest, Guto Dafydd a Caryl Bryn.

 

Unwaith eto heno, cynhaliwyd y seremoni yn Sgwâr Canolog BBC Cymru yng Nghaerdydd, gydag enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, 2019, Jim Parc Nest yn traddodi’r feirniadaeth gyfansawdd.  Meddai, “Mae awdl Gwyliwr  wedi ei chanu yn y wers rydd gynganeddol.  Yn agos at agoriad yr awdl, wele linell drawiadol: ‘Un ar erchwyn hanes yn chwilio am awch eiliad.’ Sôn y mae am redwr wedi cyrraedd copa mynydd Gwylwyr, yn sefyll i syllu ar y wawr. Erbyn diwedd y gerdd y mae’r un rhedwr yn canfod gwawr arall, y wawr sy’n dynodi deffroad cenedlgarwch y Cymry. 

 

“Rhwng y ddwy wawr ceir cyfres o nosau neu fachludoedd gormesol, a’r darlunio yn gyson gelfydd a chyffrous.  Fe dynnaf sylw yn fy meirniadaeth ysgrifenedig at un gwendid, sef y gorhoffedd o glystyru llinellau o gynganeddion sain, ynghyd â manylu ar y rheswm pam yr ystyriaf y gorddefnydd hwn yn wendid yn y wers rydd. Mae’n deg dweud nad yw Guto Dafydd o’r un farn â mi yn y cyswllt hwn, ac fe barchaf y farn honno.

 

“Ond y mae’r tri ohonom yn cytuno bod awdl Gwyliwr yn cyrraedd safon teilyngdod eleni. Oherwydd y cyfwng a orfodwyd arnom cyn i Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020 droi’n rhith, bydd y cadeirio hwn yn un hanesyddol. A gobeithio na welir mo’i debyg. Ond gobeithiwn hefyd y bydd gwefr y cadeirio mor wefreiddiol ag erioed i’r bardd buddugol, oherwydd haeddiant yr awdl arbennig hon ar y testun ‘Deffro’.”       

 

Yn wreiddiol o Dregaron, bu Gwenallt yn athro a phennaeth bioleg mewn ysgolion yn y gogledd am rai blynyddoedd, a thra’n byw yn Ninbych, mynychodd ddosbarthiadau cynganeddu John Glyn Jones.

 

Enillodd nifer o gadeiriau am ei farddoniaeth ac yn 1999, enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Môn am ei awdl ‘Pontydd’.  Ef yw capten tîm Talwrn y Beirdd Tal-y-bont. Mae hefyd yn aelod o dîm Ymryson y Beirdd Ceredigion.  

 

Yn 2009, penodwyd ef yn Bennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth. Yn dilyn ei ymddeoliad o swydd y Pennaeth yn 2018, daeth yn hyfforddwr athrawon Gwyddoniaeth, Cemeg a Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Cyhoeddwyd nifer o’i gerddi mewn gwahanol gyhoeddiadau a chasgliadau. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, DNA, yn 2021.  Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn 2019 enillodd Gwenallt dlws coffa John Glyn Jones, ei hen athro barddol, am englyn y dydd gorau’r wythnos.

 

Ei ddiddordeb mawr arall yw pysgota â phlu. Cynrychiolodd Gymru nifer o weithiau ar lynnoedd ac afonydd ledled yr ynysoedd hyn a thramor a bu’n bencampwr rhyngwladol Prydain ac Iwerddon ar ddau achlysur.

 

Mae’n rhedwr brwd a gwelir ef yn aml yn rhedeg ar hyd llwybrau ardal Tal-y-bont. Mae’n briod gyda Delyth ac mae ganddynt fab a merch, Elis ac Esther. 

 

Cafodd y Gadair ei chreu yng ngweithdy’r Eisteddfod Genedlaethol ei hun yn Llanybydder, gan y crefftwr, Tony Thomas, allan o bren onnen.  Mae’n bren cryf iawn ac yn hyblyg hefyd, ac yn berffaith ar gyfer creu Cadair Eisteddfod.  Noddir y Gadair gan gwmni J&E Woodworks Ltd, Llanbedr Pont Steffan, a chafodd ei chreu o fewn ychydig filltiroedd i le syrthiodd y coed ychydig flynyddoedd yn ôl.

 

Cadair drawiadol

 

Ac mae cynllun y Gadair yn drawiadol iawn hefyd.  Cafodd Tony ei ysbrydoli gan Gerrig yr Orsedd wrth feddwl am y cynllun ar gyfer y Gadair.  Mae llafnau o bren yn codi o amgylch y sedd, yn union fel Cylch yr Orsedd ar Faes yr Eisteddfod.  Mae’r Cerrig hefyd yn cynrychioli llaw, a honno’n cofleidio’r enillydd, wrth iddo fo neu hi gael ei urddo gan yr Archdderwydd, gyda’r syniad o ofalu am ein traddodiadau a’n diwylliant ni’n rhedeg drwy’r cynllun.  

 

Gyda gohirio’r Eisteddfod eleni, mae’r trefnwyr, yr Orsedd a’r darlledwyr wedi cydweithio er mwyn sicrhau bod modd cynnal seremonïau urddasol a diogel i bawb.  Meddai Christine James, Cofiadur yr Orsedd, “Yn naturiol, mae’r amgylchiadau eleni wedi gorfodi nifer o newidiadau arnom: cynulleidfa fach, nifer cyfyngedig o Orseddogion, ac mae’n rhaid gwneud rhai pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol -gyda’r seremonïau’n digwydd gyda’r nos, ac ar ddiwrnodau gwahanol i’r arfer.

 

“Ond mae llawer o elfennau cyfarwydd hefyd: gorymdaith yr Archdderwydd, Gweddi’r Orsedd a’r Corn Gwlad. A’r un hefyd yw’r urddas a’r ysblander – a’r wefr o ddatgelu a oes rhywun wedi llwyddo i gyrraedd safonau’r beirniaid eleni!”

 

Mwy

GWELD POPETH

Cwmpas yw enw newydd Canolfan Cydweithredol Cymru

Pobl ifanc yng Ngwynedd yn creu murlun graffiti

Ail flwyddyn prosiect olrhain eogiaid yn cychwyn ar yr afon Wysg

  • Popeth5813
  • Newyddion
    5460
  • Addysg
    2015
  • Hamdden
    1831
  • Iaith
    1559
  • Celfyddydau
    1380
  • Amgylchedd
    954
  • Gwleidyddiaeth
    921
  • Iechyd
    654
  • Llenyddiaeth
    635
  • Cerddoriaeth
    573
  • Arian a Busnes
    498
  • Amaethyddiaeth
    430
  • Bwyd
    403
  • Chwaraeon
    342
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    284
  • Ar-lein
    256
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    252
  • Eisteddfod yr Urdd
    146
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    49
  • Cystadlaethau
    46
  • Barn
    15
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Papurau Bro
    13
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Llythyron
    3