Griff Lynch yn rhyddhau Yr Enfys

Ebrill 25, 2022

Griff Lynch: Yr Enfys
Fe fydd yr artist Griff Lynch yn rhyddhau sengl newydd ‘Yr Enfys’ ddydd Gwener yma ar label recordiau I KA CHING.

Yn 2021 fe gyrhaeddodd I KA CHING dipyn o garreg filltir wrth ddathlu deng mlwyddiant o fodolaeth. Dechreuwyd y dathliadau pen-blwydd gyda Gig y Pafiliwn ym mis Awst 2021, ble daeth rhai o artistiaid y label ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. Ond oherwydd y sefyllfa oedd ohoni llynedd, nid oedd modd gwireddu pob rhan o’r dathliad, felly mae’n rhaid parhau eleni a hynny gyda chlamp o gasgliad o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid y label. Rhyddheir cân yr wythnos hyd nes yr 20fed o Fai 2022, ble cyhoeddir yr un gân ar bymtheg ar feinyl ddwbwl sgleiniog.Does dim rhaid cyflwyno Griff Lynch bellach, fel prif leisydd y grŵp poblogaidd Yr Ods ac fel artist unigol pop-electronig. Ac o dan yr ail brosiect y mae’n cyfrannu at y casgliad hwn, a da o beth fo hynny, gan fod rhai o’i gyn-senglau, megis ‘Hir Oes Dy Wên’ yn beltar.

Cyrraedd man gwyn man draw

“Mae ‘Yr Enfys’ yn gân sy'n dweud stori merch o'r enw Eleri, sy'n ceisio cyrraedd man gwyn man draw, ac yn chwilio am drysor o dan yr enfys”, eglura Griff.“Roeddwn i'n awyddus i greu cân mewn byd dychmygol, a dweud stori ysgafn. O fewn y stori, mae 'na fymryn o wers, ond does dim rhaid edrych allan amdano, dim ond mwynhau'r 'hooks'!”

Mwy

GWELD POPETH

Cwmpas yw enw newydd Canolfan Cydweithredol Cymru

Pobl ifanc yng Ngwynedd yn creu murlun graffiti

Ail flwyddyn prosiect olrhain eogiaid yn cychwyn ar yr afon Wysg

  • Popeth5813
  • Newyddion
    5460
  • Addysg
    2015
  • Hamdden
    1831
  • Iaith
    1559
  • Celfyddydau
    1380
  • Amgylchedd
    954
  • Gwleidyddiaeth
    921
  • Iechyd
    654
  • Llenyddiaeth
    635
  • Cerddoriaeth
    573
  • Arian a Busnes
    498
  • Amaethyddiaeth
    430
  • Bwyd
    403
  • Chwaraeon
    342
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    284
  • Ar-lein
    256
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    252
  • Eisteddfod yr Urdd
    146
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    49
  • Cystadlaethau
    46
  • Barn
    15
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Papurau Bro
    13
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Llythyron
    3