Darlledu cyfres o fonologau o'r Maes

Tachwedd 23, 2021

Bydd yr Eisteddfod yn darlledu un o fonologau mawr byd y ddrama ar blatfformau digidol yn dechrau heno tan nos Iau yr wythnos nesaf, gyda Siân Phillips, Lauren Connelly, Lemfreck a John Ogwen i’w gweld mewn cyfres arbennig sydd wedi’i chynhyrchu ar y cyd gyda Chwmni Theatr Invertigo.

Y Fonesig Siân Phillips sy’n serennu yn y fonolog gyntaf, gan berfformio araith Siwan o Act III y ddrama gan Saunders Lewis, a bydd hon i’w gweld ar facebook, gwefan yr Eisteddfod a’r sianel YouTube, nos Lun 22 Tachwedd am 20:00.
 
Monolog Liberty o ddrama Catrin Dafydd, Merched Caerdydd, fydd yn cael ei pherfformio gan Lauren Connelly nos Fawrth.  Cafodd y ddrama hon ei chreu’n wreiddiol fel rhan o arlwy Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 cyn mynd ar daith o amgylch Cymru gan Theatr Genedlaethol Cymru.
 
Nos Fercher, bydd Lemfreck yn perfformio un o’r monologau mwyaf enwog erioed, wrth iddo fo chwarae rhan Hamlet allan o addasiad Cymraeg JT Jones o’r ddrama Hamlet gan William Shakespeare.  Cafodd Lemfreck ei ffilmio’n perfformio ar ben Theatr y Glob yn Llundain.
 
Yr olaf yn y gyfres yw monolog ddirdynnol Llywelyn, sydd hefyd o ddrama bwerus Saunders Lewis, Siwan, gyda pherfformiad arbennig gan John Ogwen.  Cafodd hon ei ffilmio yng Nghastell Dolbadarn, Llanberis.

 

Sgwrs arbennig


 
Griff Lynch oedd y cyfarwyddwr lluniau ar gyfer y gyfres, gyda Steffan Donnelly o Gwmni Theatr Invertigo yn cyfarwyddo’r pedwar perfformiad, sy’n rhan o brosiect Dramâu Cymru, a bydd cyfle i glywed mwy am y prosiect mewn sgwrs arbennig sy’n cael ei darlledu eto nos Wener 26 Tachwedd am 20:00 ar ein platfformau digidol.
 
Meddai Steffan, “Mae hi wedi bod yn bleser gweithio efo'r artistiaid anhygoel yma i greu cyfres o fonologau ar ffilm sydd yn dathlu dramâu Cymru. Mae'r monologau yn cyd-fynd efo fy mhrosiect cyfnod clo sef creu platfform ar-lein i arddangos dramâu a dramodwyr Cymru, ac olrhain hanes theatr Cymraeg, www.dramau.cymru.”
 
Wrth drafod ei gyfraniad i’r prosiect, meddai Lemfreck, sydd wedi ail-gydio yn y Gymraeg, “’Doeddwn i ddim yn disgwyl i gymryd rhan yn y prosiect yma ddod â fi’n agosach at yr iaith.  Cyn hyn, roedd gen i berthynas gyda’r Gymraeg pan oedd angen i mi’i gael, ac roedd y profiad yma’n gyfle i mi ail-ddarganfod yr iaith mewn gwirionedd. 
 
“Ro’n i eisiau cydio yn y geiriau dy’n ni ddim yn eu clywed gymaint heddiw.  Mae ‘na harddwch cudd yn y monologau yma; harddwch sy’n gymhleth ac yn anodd, ond harddwch sydd angen ei ddiogelu rywsut neu’i gilydd.”

Mwy

GWELD POPETH

Cwmpas yw enw newydd Canolfan Cydweithredol Cymru

Pobl ifanc yng Ngwynedd yn creu murlun graffiti

Ail flwyddyn prosiect olrhain eogiaid yn cychwyn ar yr afon Wysg

  • Popeth5813
  • Newyddion
    5460
  • Addysg
    2015
  • Hamdden
    1831
  • Iaith
    1559
  • Celfyddydau
    1380
  • Amgylchedd
    954
  • Gwleidyddiaeth
    921
  • Iechyd
    654
  • Llenyddiaeth
    635
  • Cerddoriaeth
    573
  • Arian a Busnes
    498
  • Amaethyddiaeth
    430
  • Bwyd
    403
  • Chwaraeon
    342
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    284
  • Ar-lein
    256
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    252
  • Eisteddfod yr Urdd
    146
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    49
  • Cystadlaethau
    46
  • Barn
    15
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Papurau Bro
    13
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Llythyron
    3