Cynllun ‘Pen Pals’ yn pontio’r cenedlaethau ym Môn
Ebrill 20, 2022
O weld diddordeb helaeth yng nghynllun Pen Pals Gwynedd, sy’n cael ei redeg drwy gynllun Pontio’r Cenhedlaethau Cyngor Gwynedd, penderfynodd y Fenter Iaith ym Môn gynnig yr un peth i drigolion yr Ynys. Sefydlwyd Pen Pals Ynys Môn nôl yn Hydref 2021 a hynny drwy redeg peilot gyda phlant yn Ysgol Gynradd Henblas, Llangristiolus.
Mae’r cynllun yn cynnig cyfleon ysgrifennu Cymraeg allgyrsiol i blant, yn eu haddysgu am y grefft o ysgrifennu llythyr, ac yn meithrin perthynas drwy eiriau. Yn ogystal, mae’r cynllun yn cynnig ffordd arbennig o daclo unigrwydd ymysg y rhai hŷn sy’n cymryd rhan, ac yn rhoi cyfle iddynt hwythau ymarfer eu ysgrifennu Cymraeg, ac yn cynnig cysur newydd drwy gyfeillgarwch newydd.
Mr Huw Jones yw pennaeth Ysgol Gynradd Henblas, dyweodd - “Mae cynllun Pen Pals wedi bod yn brosiect hynod o gyffrous i ddisgyblion ysgol Henblas. Nid yn unig yn adnodd arbennig iddyn nhw ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, ond yn ffordd wych o ddod i adnabod pobl newydd yn ein cymdeithas a dod i wybod mwy am eu hanesion nhw”
Un a oedd yn rhan o’r cynllun oedd Sydna Roberts, sydd yn digwydd bod yn gyn-ddisgybl ysgol Henblas.
Dywedodd Sydna - “Ges i lythyr ofnadwy o ddifyr drwy’r post gan ferch fach o’r enw Casi sy’n ddisgybl yn ysgol gynradd Henblas, fy hen ysgol i. Roedd gweld fod y sgìl o ysgrifennu llythyr yn marw allan yn ddigalon iawn, felly braf iawn oedd gweld llythyr wedi’i ysgrifennu mor dda yn cyrraedd y tŷ un bore.”
Ychwaengodd - “Mae’r cynllun yma gan Menter Iaith Môn yn arbennig iawn. Mae’n ffordd arbennig o rannu straeon a hanesion, a hynny rhwng cenedlaethau fyddai byth yn ysgrifennu at ei gilydd fel arfer. Byddwn yn annog unrhyw un i fod yn rhan o’r cynllun yma.”
Un o brif amcanion Menter Iaith Môn drwy redeg y cynllun yma yw i gynnig cyfleoedd newydd a chyfleoedd cyson i blant a phobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg. Mae yma amcan hefyd i weld y genhedlaeth hŷn yn trosglwyddo eu hanes, eu hiaith a’u straeon difyr i’r genhedlaeth iau mewn modd hwyliog, cyfeillgar a naturiol.
Dywedodd Aaron Morris, swyddog y prosiect - “Mae’r ysgol yn ffynhonell bwysig iawn i drosglwyddo’r Gymraeg i blant a phobl ifanc, ac mae’n wir dweud mai’r ysgol yw’r unig ffynhonell o Gymraeg y mae rhai plant o aelwydydd di-Gymraeg yn ei gael. Mae’r pandemig wedi amlygu’r angen am gynlluniau fel ‘Pen Pals’ er mwyn rhoi cyfleoedd ehangach i blant ddatblygu sgiliau cyfathrebu ac ysgrifenedig Cymraeg”
Ychwanegodd - “Mae’r cynllun hefyd wedi bod yn adnodd arbennig i bobl hŷn yn ein cymdeithas, yn enwedig rwan. Mae’r pandemig wedi bod yn gyfnod anodd ac unig iawn iddyn nhwythau, ac mae galluogi eu bod yn derbyn llythyr gan ddisgybl ysgol lleol yn plesio’n arw.”
Erbyn hyn felly, mae’r Fenter Iaith yn falch o gyhoeddi eu bod yn croesawu unrhyw un (plentyn neu oedolyn) i fod yn rhan o’r cynllun yma wrth symud ymlaen. Os oes gennych ddiddordeb, byddem yn gwneud ein gorau i ddarganfod eich Pen Pal chi cyn gynted â phosib.

Rhannu straeon a hanesion

- Popeth5813
-
Newyddion
5460
-
Addysg
2015
-
Hamdden
1831
-
Iaith
1559
-
Celfyddydau
1380
-
Amgylchedd
954
-
Gwleidyddiaeth
921
-
Iechyd
654
-
Llenyddiaeth
635
-
Cerddoriaeth
573
-
Arian a Busnes
498
-
Amaethyddiaeth
430
-
Bwyd
403
-
Chwaraeon
342
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
284
-
Ar-lein
256
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
252
-
Eisteddfod yr Urdd
146
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
49
-
Cystadlaethau
46
-
Barn
15
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Llythyron
3