Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn lansio cynllun Agorwch y Drysau
Awst 10, 2021
Yn yr Hydref, cynhelir cyfres o sesiynau panel arbenigol bob mis dros Zoom o dan y teil Mentro Trwy Fentora, fydd yn gyfle i glywed gan drefnwyr digwyddiadau llwyddiannus eleni, yn cynnwys Eisteddfod AmGen, Eisteddfod T a Gŵyl Tafwyl. Hefyd bydd cyfraniadau gan unigolion sy’n cynrychioli partneriaid cenedlaethol y Gymdeithas wrth gyflwyno ystod eang o bynciau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, hawliau, materion technegol, cyfathrebu, codi arian a meddwlgarwch. Y bwriad yw magu hyder, creu egni o’r newydd, diogelu safonau cystadlu a sicrhau cynulleidfaoedd i’r dyfodol.
Cynhelir y sesiynau ar y 3ydd nos Iau o’r mis am 7.30pm gan ddechrau ar Fedi’r 23ain hyd Tachwedd 25ain. Cynigir y sesiynau yn rhad ac am ddim i aelodau a chyfeillion y pwyllgorau lleol, diolch i gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill sy’n cynnwys, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, Mentrau Iaith, Cymunedau Digidol Cymru, Bro 360 Menter Caerdydd, PRS, Merched y Wawr, AM, S4C a Cymru FM.
O Hydref y 4ydd, byddwn hefyd yn cydweithio gyda rhaglen Cymunedau Digidol Cymru ar gyfres o chwe chwrs awr o hyd ar brynhawniau Mawrth er mwyn helpu’r rhai sy’n llai hyderus i ddatblygu eu sgiliau digidol sylfaenol, dysgu am hygyrchedd ar-lein yn ogystal â phwysigrwydd iechyd a lles.
I’r sawl sydd am wybod sut mae paratoi podlediad neu straeon digidol, all fod yn ddefnyddiol wrth rannu straeon yn ymwneud â threfnu eisteddfod yn lleol, byddwn yn cynnig 2 sesiwn awr o hyd fin nos am 7.30pm ar Dachwedd 15fed a’r 22ain.
Bydd angen cofrestru o flaen llaw oherwydd disgwylir y bydd cryn ddiddordeb yn y sesiynau.
Yn gynnar yn 2022 mae’n fwriad i lansio ail gam y strategaeth. Bydd Sbardun Steddfota yn canolbwyntio ar briod waith yr eisteddfodau: cyfansoddi, perfformio a beirniadu ayb. Y nod yw parhau i ddatblygu sgiliau, codi safonau a chreu llwybr cystadlu ar draws llwyfannau Cymru.
Cadw'r traddodiad diwylliannol yn fyw
Dywedodd Megan Jones Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, “Mae angen yr Eisteddfodau lleol ar Gymru benbaladr i gadw’n traddodiad diwylliannol yn fyw. Y gobaith yw y bydd yr holl gynlluniau yma’n hwb i’r cannoedd o wirfoddolwyr wrth i bethau ddychwelyd i’r drefn arferol y flwyddyn nesaf”
Mewn cyfnod o warchod ein talentau cynhenid, ein diwylliant a’n hiaith, ein blaenoriaeth yw ail blannu a thocio’r winllan er mwyn i gynulleidfaoedd unwaith eto fedru cyd-flasu ffrwyth ein heisteddfodau cymunedol.
- Popeth5813
-
Newyddion
5460
-
Addysg
2015
-
Hamdden
1831
-
Iaith
1559
-
Celfyddydau
1380
-
Amgylchedd
954
-
Gwleidyddiaeth
921
-
Iechyd
654
-
Llenyddiaeth
635
-
Cerddoriaeth
573
-
Arian a Busnes
498
-
Amaethyddiaeth
430
-
Bwyd
403
-
Chwaraeon
342
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
284
-
Ar-lein
256
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
252
-
Eisteddfod yr Urdd
146
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
49
-
Cystadlaethau
46
-
Barn
15
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Llythyron
3