Cyhoeddi cymrawd newydd i'r Eisteddfod Genedlaethol
Awst 09, 2021
Dyma’r anrhydedd mwyaf y gall yr Eisteddfod ei gynnig i unrhyw un, ac mae’n arwydd o ddiolchgarwch am oes o wasanaeth i’r sefydliad.
Ac mae Garry Nicholas, yn un sydd wedi bod â’r Eisteddfod yn agos at ei galon ers degawdau, ac wedi gweithio’n ddiflino er ei budd mewn nifer fawr o feysydd. Anodd fyddai meddwl am unrhyw un sydd wedi gwneud cymaint dros ein gŵyl genedlaethol dros y blynyddoedd.
Magwyd Garry ar aelwyd oedd yn caru’r ‘pethe’ ac yn cefnogi’r Eisteddfodau lleol. Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn - yn y rhai lleol ac yna yn y Genedlaethol. Dechreuodd gystadlu yn y Genedlaethol o dan 12 oed a bu’n cystadlu’n flynyddol hyd nes iddo ddod yn Feirniad (Llefaru a Drama). Bu’n Arweinydd Llwyfan yn y Genedlaethol droeon.
Yn 1996 roedd yn un o’r rhai a frwydrodd i gael y Brifwyl i Lanelli yn y flwyddyn 2000 a hynny yn wyneb cystadleuaeth frwd oddi gan Gaerdydd a Thyddewi. Fe’i penodwyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod honno, eisteddfod a adawodd waddol deg o weithgarwch ac o Gymreictod ar ei hôl.
Ers hynny bu’n gweithio’n ddiflino i’r Brifwyl gan ddal amryw o swyddi - Is Gadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Cyngor, Llywydd y Llys, Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliannol. Am gyfnod bu’n gadeirydd panel bychan oedd yn ystyried ffyrdd i wella a datblygu’r Brifwyl ymhellach.
Llywio'r medal wyddoniaeth
Am sawl blwyddyn ef oedd yn llywio Seremoni'r Fedal Wyddoniaeth yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Mae’r Brifwyl a’i dyfodol yn bwysig iddo ac mae’n cefnogi’r bwriad i ddatblygu rôl y Brifwyl yn y gymuned trwy addasu ac arloesi.
Wrth dderbyn yr anrhydedd yng nghyfarfod Llys yr Eisteddfod, meddai Garry, “Mae bod yn rhan o deulu’r Eisteddfod dros y blynyddoedd wedi bod yn bleser llwyr. Ac rydw i’n teimlo fy mod innau wedi elwa cymaint o bob cysylltiad gyda’r Brifwyl. Mae cael fy ethol yn Gymrawd, a hynny gan fy nghyfoedion yn anrhydedd heb ei ail ac yn un y bydda i’n ei drysori am byth.
“Ac mae’n hyfryd iawn bod y newyddion yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr Eisteddfod; gŵyl wahanol i’r arfer, ond un sydd wedi bod yn gymaint o lwyddiant. Ac fe hoffwn i fod y cyntaf i longyfarch Betsan a’r tîm am eu gwaith arbennig. Nid ar chwarae bach mae creu a chyflwyno rhaglen ar y raddfa hon. Diolch o galon am yr holl waith.”
- Popeth5813
-
Newyddion
5460
-
Addysg
2015
-
Hamdden
1831
-
Iaith
1559
-
Celfyddydau
1380
-
Amgylchedd
954
-
Gwleidyddiaeth
921
-
Iechyd
654
-
Llenyddiaeth
635
-
Cerddoriaeth
573
-
Arian a Busnes
498
-
Amaethyddiaeth
430
-
Bwyd
403
-
Chwaraeon
342
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
284
-
Ar-lein
256
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
252
-
Eisteddfod yr Urdd
146
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
49
-
Cystadlaethau
46
-
Barn
15
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Llythyron
3