Cyfle unwaith mewn oes i ymuno â chôr ieuenctid ar daith i Alabama
Medi 16, 2021
I nodi canmlwyddiant y mudiad yn 2022 mi fydd Côr yr Urdd yn cael ei ffurfio er mwyn cynnig cyfle unwaith mewn oes i griw o bobl ifanc ddod at ei gilydd a pherfformio yn Alabama.
Mae Côr yr Urdd yn agored i bob unigolyn rhwng 18 a 25 oed. Nid oes angen bod yn aelod o gôr ar hyn o bryd, nac ychwaith i fod â phrofiad blaenorol o ganu mewn côr. Yr oll sydd angen i ymgeiswyr wneud ydi llenwi ffurflen gais ar-lein a chyflwyno recordiad byr erbyn y 14eg o Hydref 2021.
Cyhoeddwyd eisoes bod 16 o fuddugwyr gŵyl ddigidol Eisteddfod T eleni yn cael y cyfle i ymuno â’r côr.
Daw’r cyfle yn sgil partneriaeth drawsatlantig yr Urdd gyda Phrifysgol Alabama ym Mirmingham (University of Alabama at Birmingham). Yn ogystal â threfnu fod Côr yr Urdd yn cael perfformio mewn cyngherddau yn Alabama ac yn dysgu mwy am y traddodiad canu gospel a hanes hawliau sifil yn Alabama, y bwriad yw i Côr Gospel UAB i berfformio yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
Ffurfiwyd perthynas rhwng Cymru a’r gymuned Affro Americanaidd ym Mirmingham, Alabama dros hanner canrif yn ôl yn dilyn ymosodiad terfysgol gan y Klu Klux Klan ar Eglwys y Bedyddwyr, 16th Street. Fel arwydd o gefnogaeth ac undod rhoddwyd ffenestr lliw i’r eglwys gan bobl Cymru, a hyd heddiw caiff ei hadnabod fel y ‘Wales Window’.
Cryfhau'r berthynas
Bu i ymweliad swyddogol Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, a Gweinidog Addysg Cymru ar y pryd Kirsty Williams â’r eglwys a phobl ifanc Birmingham, Alabama yn 2019 gryfhau’r berthynas hon. O ganlyniad, roedd trefniadau taith Côr Gospel Prifysgol Alabama i ymweld â Chymru ac Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020 yn cael eu cwblhau pan fu’n rhaid gohirio’r cyfan wrth i Covid-19 ledaenu ar draws y byd.
Ond yn wyneb heriau’r pandemig, ffurfiwyd côr gospel rhithiol ar y cyd rhwng rai o aelodau’r Urdd a myfyrwyr UAB, ac i ddathlu Diolchgarwch ym mis Tachwedd 2020 daethant at ei gilydd i ganu yn y Gymraeg am y tro cyntaf, er mwyn rhyddhau addasiad o ‘Every Praise’ gan Hezekiah Walker, sef ‘Canwn Glod.’
Wrth i'r Urdd nesáu at ei chanmlwyddiant yn 2022 mae gan y mudiad gynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod Cymru’n cael effaith gadarnhaol a chodi ymwybyddiaeth mwy o bobl am Gymru, i gynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc, i ddathlu cyfoeth diwylliannol Cymru yn ogystal â rhannu arfer da gyda chysylltiadau rhyngwladol yn sgil llwyddiant cynyddu’r defnydd, hyder a mwynhad o iaith leiafrifol.
- Popeth5813
-
Newyddion
5460
-
Addysg
2015
-
Hamdden
1831
-
Iaith
1559
-
Celfyddydau
1380
-
Amgylchedd
954
-
Gwleidyddiaeth
921
-
Iechyd
654
-
Llenyddiaeth
635
-
Cerddoriaeth
573
-
Arian a Busnes
498
-
Amaethyddiaeth
430
-
Bwyd
403
-
Chwaraeon
342
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
284
-
Ar-lein
256
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
252
-
Eisteddfod yr Urdd
146
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
49
-
Cystadlaethau
46
-
Barn
15
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Llythyron
3