Cyfle unigryw i entrepreneuriaid ifanc ledled Môn a Gwynedd
Tachwedd 25, 2021
Mae'r prosiect yn gyfle i dderbyn hyfforddiant busnes dros gyfnod o ddeg wythnos yn ogystal â chefnogaeth ariannol fydd o gymorth wrth symud y syniadau busnes yn eu blaen.
Bydd y cynllun yn cefnogi syniadau busnes sydd yn ymateb i her gymunedol, Yn ôl Menter Môn, "Gall y gymuned hon fod yn un ddaearyddol, yn gymuned o bobl, neu yn fusnes sydd yn ceisio creu cymuned newydd. Dyma gyfle gwych i greu gwelliant cymunedol ac i gael bod yn rhan o brosiect sydd yn cefnogi pobl ifanc i lwyddo ym mro eu mebyd."
Ceisiadau ar agor
Mae ceisiadau nawr ar agor. Er mwyn ymgeisio bydd angen i’r bobl ifanc fod rhwng 18-30 oed a bydd gofyn iddyn nhw fod yn byw yn neu fod yn wreiddiol o Wynedd neu Fôn.
Cyllidir y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.
- Popeth6507
-
Newyddion
6058
-
Addysg
2148
-
Hamdden
1874
-
Iaith
1671
-
Celfyddydau
1479
-
Amgylchedd
1034
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
698
-
Llenyddiaeth
647
-
Cerddoriaeth
609
-
Arian a Busnes
586
-
Amaethyddiaeth
532
-
Bwyd
458
-
Chwaraeon
373
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
350
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
288
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
198
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
94
-
Cystadlaethau
48
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3