Ceredigion yn ail-gydio ym mharatoadau Prifwyl 2022
Tachwedd 05, 2021
Ar ôl gorfod gohirio’r brifwyl ddwywaith, fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn lleol y flwyddyn nesaf, a hynny o 30 Gorffennaf tan 6 Awst, gyda’r croeso’n fwy cynnes nag erioed.
Wrth gyhoeddi’r bwriad i gynnal yr ŵyl yn 2022, dywedodd Elin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, “Mae heddiw’n ddiwrnod arbennig o dda i ni yma yng Ngheredigion, wrth i ni ddatgan yn glir ein bod ni wedi ail-gydio yn y gwaith o baratoi i gynnal yr Eisteddfod yn ein hardal ni'r flwyddyn nesaf.
“Rwy’n siŵr y bydd pawb ar draws y sir yn dathlu ein bod ni am gael ein Heisteddfod, ac am groesawu Cymru gyfan draw atom ni’n ystod yr haf nesaf. Ac fe fydd hi’n Eisteddfod i’w chofio. Fel pawb arall, rydw i’n edrych ymlaen yn barod at weld hen gyfeillion o amgylch y Maes a mwynhau’r rhaglenni a’r sesiynau amrywiol sy’n dangos ein diwylliant a’n hiaith ar eu gorau.
“Mae ‘na her o’n blaenau ni dros y misoedd nesaf wrth i ni fynd ati i ysbrydoli a sbarduno trigolion y sir i ymuno â ni yn ein paratoadau. Ry’n ni eisiau sicrhau bod pawb yn gwybod am yr Eisteddfod ac yn awyddus i ddod draw i fwynhau’r mil a mwy o weithgareddau fydd yn digwydd o amgylch y Maes yn ystod yr wythnos.
“Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i’r Eisteddfod am eu holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf - maen nhw wedi llwyddo i sicrhau bod ‘na frwdfrydedd ac awch am Eisteddfod ymysg pobl ym mhob rhan o Gymru a thu hwnt drwy gynnal gwyliau digidol gwych - ond ‘does dim byd tebyg i’r wefr o gael dychwelyd i Faes ‘go iawn’ ac ail-gydio yn y gwaith ar lawr gwlad.
“Ar y cychwyn, bydd y gweithgareddau paratoi’n fach wrth i ni ddod i arfer gyda chynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb unwaith eto. Byddwn yn dilyn canllawiau’r Eisteddfod ei hun a holl gyngor Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu pawb. Ac wrth i ni ail-gydio yn y gwaith, fe fyddwn ni hefyd yn cofio am y rheini sydd wedi dioddef, y rheini ry’n ni wedi’u colli ac sydd wedi colli anwyliaid yn sgil COVID-19 dros y flwyddyn a hanner diwethaf.”
Brwdfrydedd
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Roedd hi mor braf ymuno gyda’r tîm yng Ngheredigion neithiwr i drafod ail-gydio yn y gwaith. Mae’r brwdfrydedd am Eisteddfod arbennig yn sicr yn dal yn fyw iawn yma’n lleol. Ar hyn o bryd, ry’n ni’n edrych ar y Maes ac ar y cynnwys artistig, ac yn edrych ymlaen at gael cyhoeddi rhagor o wybodaeth dros y misoedd nesaf.
“Ry’n ni hefyd wedi derbyn dros 250 o ymholiadau ychwanegol am le ar y maes carafanau, ac mae pawb wedi’u gosod ar restr aros ar hyn o bryd, ac ry’n ni’n gobeithio gallu cysylltu â phawb dros yr wythnosau nesaf i ddweud a oes lle ar eu cyfer.
“Mae’n amlwg fod pawb, fel ninnau, wedi gweld eisiau’r Eisteddfod dros y cyfnod anodd yma, ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn arw iawn at gael dod i Geredigion o’r diwedd. Hir yw pob aros yn ôl y sôn – a mawr fydd y croeso yma yng Ngheredigion y flwyddyn nesaf hefyd.”
- Popeth5813
-
Newyddion
5460
-
Addysg
2015
-
Hamdden
1831
-
Iaith
1559
-
Celfyddydau
1380
-
Amgylchedd
954
-
Gwleidyddiaeth
921
-
Iechyd
654
-
Llenyddiaeth
635
-
Cerddoriaeth
573
-
Arian a Busnes
498
-
Amaethyddiaeth
430
-
Bwyd
403
-
Chwaraeon
342
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
284
-
Ar-lein
256
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
252
-
Eisteddfod yr Urdd
146
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
49
-
Cystadlaethau
46
-
Barn
15
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Llythyron
3