Arwyddfardd benywaidd cyntaf Cymru

Ebrill 04, 2022

Beti-Wyn James: Arwyddfardd newydd
Fe gyhoeddodd Gorsedd y Beirdd mai’r Parchedig Beti-Wyn James fydd yn olynu Dyfrig Roberts yn Arwyddfardd nesaf yr Orsedd – y tro cyntaf erioed i fenyw ymgymryd â’r rôl arbennig hon.

Un o Glydach, Abertawe yw Beti-Wyn. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn mynd ymlaen i Goleg Diwinyddol Aberystwyth. Ordeiniwyd hi i’r weinidogaeth yn y Tabernacl, y Barri ac mae hi bellach yn weinidog ar Ofalaeth Eglwysi’r Priordy, Caerfyrddin, Cana a Bancyfelin. Hi hefyd yw Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar hyn o bryd.

Urddwyd Beti-Wyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Abertawe a’r Cylch 2006, a bu’n ffydlon i’w seremonïau ar hyd y blynyddoedd ers hynny. Bu’n ddistain yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Ceredigion ym mis Mehefin 2019, a chynorthwyodd yn y gwaith o drefnu ‘Gŵyl yr Orsedd’ yng Nghaerfyrddin yn 2019 i nodi 200 mlynedd ers uno Gorsedd y Beirdd â’r Eisteddfod. Roedd hi’n Is-Gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, a braint arbennig, meddai, oedd cael arwain yr Oedfa o lwyfan y Pafiliwn yn yr eisteddfod honno.

Meddai Beti-Wyn, “Rwyf wedi fy magu i werthfawrogi pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol i fywyd ein cenedl, ac wedi’i mynychu’n flynyddol ers yn blentyn. Credaf fod yr Orsedd yn gyfrwng arbennig i hybu datblygu, hyrwyddo, a chyfoethogi’n diwylliant fel Cymry. Mae ei seremonïau yn lliwgar, urddasol a chyfoethog, a’i thraddodiadau’n rhai pwysig y mae angen eu diogelu. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â chyfrifoldebau’r Arwyddfardd, ac yn ymwybodol iawn o’r fraint fawr a ymddiriedwyd i mi.”

 

Brwdfrydedd twymgalon

 

Dywedodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, “Daeth yn amlwg wrth sgwrsio gyda hi fod awyrgylch ac arwyddocâd defodau’r Orsedd yn agos iawn at galon Beti-Wyn. Mae ganddi frwdfrydedd twymgalon ac rwy’n siŵr y bydd yn effeithiol ac ysbrydoledig wrth ei gwaith.”

Bydd yr Arwyddfardd newydd, a gaiff ei hadnabod yng ngorsedd fel yr Arwyddfardd Beti-Wyn, yn ymgymryd â chyfrifoldebau’r swydd ar ddiwedd wythnos Eisteddfod Ceredigion.

Mwy

GWELD POPETH

Lai na 100 diwrnod i fynd tan Eisteddfod Ceredigion

Cynllun ‘Pen Pals’ yn pontio’r cenedlaethau ym Môn

Gŵyl unigryw i bontio rhwng Cymru a Llydaw

  • Popeth5813
  • Newyddion
    5460
  • Addysg
    2015
  • Hamdden
    1831
  • Iaith
    1559
  • Celfyddydau
    1380
  • Amgylchedd
    954
  • Gwleidyddiaeth
    921
  • Iechyd
    654
  • Llenyddiaeth
    635
  • Cerddoriaeth
    573
  • Arian a Busnes
    498
  • Amaethyddiaeth
    430
  • Bwyd
    403
  • Chwaraeon
    342
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    284
  • Ar-lein
    256
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    252
  • Eisteddfod yr Urdd
    146
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    49
  • Cystadlaethau
    46
  • Barn
    15
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Papurau Bro
    13
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Llythyron
    3