Artist ifanc yn cerfio'n fyw yn Storiel Bangor

Ebrill 20, 2022

Llŷr Erddyn Davies
Mae'r artist o Gaernarfon, Llŷr Erddyn Davies wedi dechrau ei ddiwrnod cyntaf yn cerfio yn fyw yn Storiel, Bangor.

Cafodd Llŷr ei gomisiynu i greu gwaith celf newydd wedi'i ysbrydoli gan eitemau o hetiau yng nghasgliad Storiel.  Bydd yn cerflunio’r hetiau o'r casgliad i fwydo i mewn i'w ddyluniad ar gyfer y gwaith celf.

Mae hefyd yn gwahodd pobl leol a grwpiau cymunedol i rannu yr hetiau y maent yn credu sy'n eu cynrychioli, a fydd hefyd yn bwydo i ddyluniad y cerflun.

Dewch â'ch hetiau i Storiel rhwng 20 a 22 Ebrill 2022 a rhannwch eich stori am sut mae'n eich cynrychioli chi neu'ch cymuned gyda Llŷr.

Mae cyfleoedd hefyd i bobl gerflun eu darn eu hunain o hetiau mewn un o dri gweithdy galw heibio dan arweiniad Llŷr yn Storiel ar yr adegau canlynol:

10am-12 ac 1-3pm 21 Ebrill 2022

10am-12 ac 1-3pm 22 Ebrill22

Ariennir y prosiect gan raglen 'Trawsnewid Trefi' Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.

Mae'n rhan o fenter ehangach i wella gofod awyr agored Storiel er mwyn creu ardal ddymunol i bobl ei mwynhau a'i gwella wrth ymgysylltu â'r gymuned.

Gwaith cerfluniol

Graddiodd Llŷr Erddyn Davies yn 2014 gyda gradd mewn Celf Gain o Brifysgol Falmouth. Mae’n byw ychydig y tu allan i Gaernarfon, Gwynedd lle mae'n parhau i weithio fel  artist ac athro. Mae'n parhau i arddangos gwaith cerfluniol a lluniadau yn ogystal â gweithio ar gomisiynau cyhoeddus a phreifat.

Wrth egluro ei waith, dywedodd Llŷr Erddyn Davies, "Trwy fy ngwaith rwy'n ymchwilio ac yn arbrofi gyda'r berthynas rhwng pobl a'u hamgylchedd, boed hynny gyda phobl eraill, tir neu wrthrychau mewn cymdeithas. Rwy'n mwynhau'r  prosesau diwydiannol trwm sy'n rhan o fwrw  cerflun efydd."

Mwy

GWELD POPETH

Cwmpas yw enw newydd Canolfan Cydweithredol Cymru

Pobl ifanc yng Ngwynedd yn creu murlun graffiti

Ail flwyddyn prosiect olrhain eogiaid yn cychwyn ar yr afon Wysg

  • Popeth5813
  • Newyddion
    5460
  • Addysg
    2015
  • Hamdden
    1831
  • Iaith
    1559
  • Celfyddydau
    1380
  • Amgylchedd
    954
  • Gwleidyddiaeth
    921
  • Iechyd
    654
  • Llenyddiaeth
    635
  • Cerddoriaeth
    573
  • Arian a Busnes
    498
  • Amaethyddiaeth
    430
  • Bwyd
    403
  • Chwaraeon
    342
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    284
  • Ar-lein
    256
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    252
  • Eisteddfod yr Urdd
    146
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    49
  • Cystadlaethau
    46
  • Barn
    15
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Papurau Bro
    13
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Llythyron
    3