Arddangosfa ffotograffiaeth yn dathlu artistiaid o Gonwy
Ebrill 05, 2022
Sefydlwyd yr Academi yn 1882 ac mae’n ganolfan ar gyfer rhagoriaeth artistig yng Nghymru. Mae’r oriel wedi’i lleoli yn hen Gapel Annibynnol Seion ar Crown Lane, Conwy.
Mae casgliad o bortreadau stiwdio gan y ffotograffydd o Gonwy, Graham Hembrough, yn annog ymwelwyr i wneud cysylltiad a meithrin dealltwriaeth well rhwng y gwaith celf a welir mewn arddangosfeydd a’r crëwr, gan ‘roi wyneb a lle i enw’r artist’.
Gwahoddwyd aelodau o’r Academi sy’n byw yn Sir Conwy i gymryd rhan yn y prosiect ac rydym ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cydweithrediad.
Comisiynwyd ‘Artistiaid a Gwneuthurwyr Conwy’ gan Wasanaeth Diwylliant Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn partneriaeth â’r Academi gyda grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Meddai Graham Hembrough am y gwaith, “Roeddwn i’n ymwybodol bod ymweld â gweithfannau artistiaid (a thynnu lluniau ohonyn nhw) yn gallu cael ei ystyried fel tarfu ar ofod preifat personol. Yn y fan hyn mae artistiaid yn mynegi eu hunain yn greadigol, gyda gwaith ar y gweill nad ydi’r cyhoedd i fod i’w weld gan ei fod yn broses sy’n esblygu ac yn datblygu i greu gwaith sydd, yn y diwedd, yn briodol ac wedi’i ddatrys i’w rannu a’i weld gan eraill. I rai, mae’r gofod yma yn ddihangfa neu’n hafan sy’n gwrthod ymyrraeth o’r tu allan”.
Mae’r arddangosfa ar agor o 9 Ebrill tan 21 Mai 2022 yn yr Academi Frenhinol Gymreig cyn mynd ar daith i Ganolfan Ddiwylliant Conwy o fis Mehefin tan fis Medi 2022. Bydd yn cyd-fynd â rhaglen o weithdai dan arweiniad rhai o’r artistiaid sy’n rhan o’r prosiect.
- Popeth5813
-
Newyddion
5460
-
Addysg
2015
-
Hamdden
1831
-
Iaith
1559
-
Celfyddydau
1380
-
Amgylchedd
954
-
Gwleidyddiaeth
921
-
Iechyd
654
-
Llenyddiaeth
635
-
Cerddoriaeth
573
-
Arian a Busnes
498
-
Amaethyddiaeth
430
-
Bwyd
403
-
Chwaraeon
342
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
284
-
Ar-lein
256
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
252
-
Eisteddfod yr Urdd
146
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
49
-
Cystadlaethau
46
-
Barn
15
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Llythyron
3