Ail flwyddyn prosiect olrhain eogiaid yn cychwyn ar yr afon Wysg

Ebrill 25, 2022

olrhain eogiaid
Mae prosiect sy'n olrhain eogiaid arian wrth iddynt fudo ar hyd afon Wysg wedi dechrau ar ei ail flwyddyn. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i daclo'r dirywiad y rhywogaeth - a hynny drwy nodi'r heriau sy'n wynebu’r eogiaid ar eu taith i'r môr.

Mae'r prosiect, a gefnogir gan Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg, yn golygu dal hyd at 100 o eogiaid arian y flwyddyn - a'u tagio â throsglwyddyddion acwstig sy'n pingio ar amledd uchel yn rheolaidd.

Eogiaid ifanc sy’n paratoi i fudo i'r môr yw eogiaid arian. Mae'r trosglwyddyddion yn rhoi cipolwg ar eu symudiadau, yn ogystal â darparu data sy'n gysylltiedig â chyfraddau goroesi ac ymddygiad mudo, gan helpu i lywio gwaith rheoli eogiaid a gwaith cadwraeth yn y dyfodol.  

Ym mlwyddyn gyntaf y  prosiect y llynedd (2021), arweiniodd Mis Mai anarferol o wlyb at flwyddyn dda debygol o ran llwyddiant  mudo. Llwyddodd o leiaf 67% o'r eogiaid arian a dagiwyd i wneud y daith can cilomedr a mwy o hyd, o'r safle tagio ar ran uchaf yr afon i Aber Afon Hafren. Yr amser teithio unigol cyflymaf o’r safle monitro i fyny'r afon o Aberhonddu i'r safle monitro terfynol yn yr aber yng Nghasnewydd (taith 95.6 cilomedr o hyd) oedd 36.22 awr.

Dywedodd Oliver Brown, Swyddog Dyframaeth, sy'n arwain y prosiect ar ran CNC, "Mae niferoedd eogiaid – yn rhai hen ac ifanc – ar eu hisaf erioed yn afonydd Cymru, yn ogystal â rhannau eraill o'r byd, ac mae'n rhaid i bob un ohonom wneud yr hyn a allwn i'w cadw a diogelu goroesiad y rhywogaeth eiconig hon."

"Bydd y prosiect yn rhoi syniad da i ni o'r hyn sy'n digwydd i'r pysgod hyn ar adeg dyngedfennol yn eu cylch bywyd. Yn flaenorol, nid oeddem yn gwybod faint o eogiaid arian oedd yn cyrraedd y môr, felly mae'r prosiect hwn yn rhoi syniad da i ni o gyfraddau goroesi, yn ogystal â'n helpu i ddeall sut y gallai rhwystrau canfyddedig – gwaelodion pontydd neu goredau er enghraifft – effeithio ar fudo."

Derbynyddion ar hyd yr afon

"Gan ddysgu o'r canlyniadau ym mlwyddyn un, rydym wedi defnyddio 15 derbynnydd ychwanegol ar hyd Afon Wysg eleni, gan ddod â'r cyfanswm i 46, i helpu i gynyddu cywirdeb y data. Rydym hefyd wedi addasu ein methodoleg trapio i gynyddu effeithlonrwydd." 

Ychwanegodd Oliver Brown, "Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg gyda’r prosiect hwn. Yn y pen draw, bydd y wybodaeth a'r data a gasglwn yn llywio ein gwaith cydweithredol ym maes cadwraeth eogiaid, a fydd yn amhrisiadwy yn ein hymdrechion i fynd i'r afael ag achos y dirywiad yn y boblogaeth yn y tymor hir." 

Mwy

GWELD POPETH

Cwmpas yw enw newydd Canolfan Cydweithredol Cymru

Pobl ifanc yng Ngwynedd yn creu murlun graffiti

Griff Lynch yn rhyddhau Yr Enfys

  • Popeth5813
  • Newyddion
    5460
  • Addysg
    2015
  • Hamdden
    1831
  • Iaith
    1559
  • Celfyddydau
    1380
  • Amgylchedd
    954
  • Gwleidyddiaeth
    921
  • Iechyd
    654
  • Llenyddiaeth
    635
  • Cerddoriaeth
    573
  • Arian a Busnes
    498
  • Amaethyddiaeth
    430
  • Bwyd
    403
  • Chwaraeon
    342
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    284
  • Ar-lein
    256
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    252
  • Eisteddfod yr Urdd
    146
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    49
  • Cystadlaethau
    46
  • Barn
    15
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Papurau Bro
    13
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Llythyron
    3